Warehouse Stock Clearance Sale

Grab a bargain today!


Lewsyn Lwcus [Welsh]
By

Rating

Product Description
Product Details

Reviews

Dyma antur ddiweddaraf y cowboi Lewsyn Lwcus yn y Gymraeg, sef stori stribed liwgar a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn Ffrangeg. Sheriff Tre Fenter yw Lewsyn, tre'n llawn dihirod ond diolch i'n harwr, caiff y pen-bandit, Clinton Fenter, ei garcharu gan adael y dre'n wag. Yn yr un carchar mae'r brodyr Dalton, dihirod o'r radd flaenaf. Ymhen dim mae nhw'n dianc ac yn mynd am Dre Fenter. Ond does fawr o hwyl mewn tre ddiffaith! Lewsyn Lwcus sy'n cynnig ateb. Mae ganddo gynllun a allai blesio'r Daltons trwy boblogi'r dre a dod a rhagor o glod a bri i'n harwr ar yr un pryd! Sut? Darllenwch! Mae'r stori a'r lluniau'n ddigon gafaelgar ac mae'r addasiad yn ychwanegu at yr hiwmor. Pwy fasa'n meddwl bod merched y Gorllewin Gwyllt yn dawnsio i ganeuon Meinir Gwilym? Ond pwy fydd y darllenwyr? O'r cychwyn cyntaf dyw'r iaith ddim yn hawdd a thipyn o strach fydd hi i blant 9--11 oed i ddilyn y testun. Wedi dweud hynny, mae'r lluniau'n gymorth ac efallai fod digon yma i ddenu plant hyn sydd ar hyn o bryd ddim yn orhoff o godi llyfr. Wedi iddyn nhw orffen, bydd yr antur yn sicr o ddod a gwen i wyneb aelodau eraill y teulu. Er nad ydw i'n un am stori stribed, cefais flas ar hon. Rhian D. James Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatad Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru

Ask a Question About this Product More...
 
Look for similar items by category
This title is unavailable for purchase as none of our regular suppliers have stock available. If you are the publisher, author or distributor for this item, please visit this link.

Back to top